Hafan Cymraeg Hafan Cymraeg Newyddion Amdanom Ni Cysylltu â Ni I Rieni a Gofalwyr I Blant a Phobl Ifanc I Weithwyr Proffesiynol Home

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru

Adborth

English

English

Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR)


Beth yw EMDR?


Therapi cymharol newydd yw Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (neu EMDR) a sefydlwyd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.  Mae’n driniaeth eithriadol o effeithiol i bobl - plant yn ogystal ag oedolion - sydd wedi cael profiadau trawmatig.


Mae hefyd yn helpu gydag amrywiaeth o broblemau emosiynol ac ymddygiad mewn oedolion a phlant.


Sut mae trawma’n effeithio arnom?


Mae pawb yn cael profiadau trawmatig yn ystod eu bywydau.  Gall yr effeithiau fod yn gorfforol, yn seicolegol neu’n gymysgedd o’r ddau.  Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella’n gyflym, ond nid pawb.  Weithiau gall effaith trawma aros gyda ni ac effeithio ar ein bywydau ymhell ar ôl y digwyddiad.  Efallai y bydd angen cymorth arbenigol i’n helpu i wella.


Yr effeithiau ar blant


Weithiau mae’n hawdd gweld y trawma a brofwyd - marwolaeth neu ddamwain ffordd er enghraifft.  Ond nid hw mor hawdd bob tro.


Weithiau rydych chi’n gwybod beth yw ond nid yw eich plentyn.  Efallai bod y trawma wedi digwydd mor gynnar yn ei fywyd fal nad yw’n ei gofio neu fod y plentyn wedi gwthio’r peth o’i feddwl neu ei ‘anghofio’.  


Os nad yw plant yn cofio, yn aml bydd yr effeithiau yn dod i’r amlwg drwy eu hymddygiad.


Mae’r rhain yn aml yn arwyddion o ‘bwyntiau sticio emosiynol’ (emotional stuck points neu ESPs)


Er enghraifft, efallai na fyddent yn chwerthin, yn chwarae neu’n gwenu llawer.  Efallai y byddent yn rhy ufudd ac yn fodlon mynd gydag unrhyw oedolyn.  Efallai na fyddent yn gallu sefyll i fyny drostynt eu hunain neu yn protestio os cânt eu trin yn wael.  Weithiau mae rhieni yn gwybod fod rhywbeth o’i le ond heb fod yn ymwybodol fod unrhyw beth trawmatig wedi digwydd.


Mae ‘pwyntiau sticio emosiynol’ yn tueddu i fod yn fwy amwys na thrawma penodol.  Gellir defnyddio EMDR i wella hunan werth a helpu gydag iselder, pryder, gwrthod cydweithredu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol megis dweud celwydd a dwyn.


Pam fod profiad trawmatig mor arbennig?


Mae’n ymddangos fod cysylltiad rhwng hyn a’r ffordd mae’r ymennydd yn prosesu gwybodaeth pan fydd trawma yn digwydd.


Gadewch i ni feddwl am y ffordd y caiff atgofion cyffredin eu ffurfio.  Fel arfer, pan fydd rhywbeth yn digwydd, eich llygaid, eich clustiau a’ch synhwyrau eraill yw’r cyntaf i ymateb.  Yna caiff y corff yma o wybodaeth ei storio fel atgofion.  Fel arfer mae’r rhain yn debyg i stori, ac yn cynnwys eich argraffiadau a’ch dehongliadau yn ogystal â feithiau am yr hyn ddigwyddodd.


Pan fydd rhywbeth peryglus yn digwydd mae eich corff a’ch ymennydd yn ymateb mewn ffordd wahanol.  Mae’ch corff yn sylweddoli bod yna argyfwng ac mae’n gweithredu i’w atal; ymddengys bod ei negeseuon i’r ymennydd yn cael eu rhoi mewn storfa argyfwng, yn aml heb fynd drwy broses arferol y cof.


Caiff y profiadau yma - gyda’r meddyliau a’r teimladau gwreiddiol - eu cofnodi yn eich ymennydd yn eu ffurf amrwd, heb eu prosesu.


Weithiau nid yw’r ymennydd yn eu prosesu yn y ffordd arferol i ffurfio atgofion cyffredin.  Maent hyd yn oed yn cael eu storio mewn rhan wahanol o’r ymennydd.


Sut mae atgofion trawmatig yn wahanol?


Mae’n debyg bod atgofion trawmatig yn cael eu cloi yn yr ymennydd ar eu ffurf ‘amrwd’.  Pan gaiff yr atgofion hyn eu dwyn i gof, gallant achosi gofid mawr.  Weithiau cânt eu cofio’n ddirybudd gan achosi âl-fflachiau, hunllefau a ffrwydradau.  Gallant olygu ei bod yn anodd iawn delio â sefyllfaoedd o straen arferol mewn ffordd dawel a rhesymol, yn ôl ein harfer.


Sut all EMDR helpu?


Dull yw EMDR sy’n helpu i ‘ddatgloi’ dull prosesu’r ymennydd fel y gall atgofion trawmatig ddod yn atgofion ‘cyffredin’.  Ni wyddom yn union sut mae’r driniaeth yma’n gweithio.  Efallai bod ganddo rywbeth i’w wneud ag ysgogi ochr dde ac ochr chwith yr ymennydd bob yn ail - neu â chwsg REM lle mae’r llygaid yn aml yn symud o’r naill ochr i’r llall.  Mae’r symudiadau llygaid yma’n helpu i brosesu’r deunydd anymwybodol.


Beth mae EMDR yn ei olygu?


Mae EMDR yn olygu gofyn i’r plentyn am y digwyddiadau annifyr ac yna gofyn iddo/iddi edrych ar fys y therapydd a’i ddilyn yn ôl ac ymlaen am ryw 15 i 30 eiliad.


Gellir defnyddio mathau eraill o symbylydd chwith-de fel tapio neu daro’r dwylo os yw’r plentyn yn cael anhawster i symud y llygaid.  Ar ôl ychydig eiliadau o symud y llygaid neu symbylydd de-chwith arall, mae’r therapydd yn stopio, ac yn gofyn i’r plentyn os oes unrhyw beth wedi newid am y ddelwedd.


Yna mae’r therapydd yn gofyn i’r plentyn beth sy’n dod i’w feddwl nesaf.  Fel arfer mae rhywbeth yn newid ac mae’r plentyn yn cyfeirio at ddelwedd, meddwl, teimlad neu ias gorfforol wahanol.  Yna gofynnir i’r plentyn ei ddal yn ei feddwl a dilyn set arall o symudiadau’r llygaid, tapiau llaw neu synau.  Weithiau bydd meddyliau a theimladau annifyr yn dod i’r wyneb ac mae’n rhaid delio â nhw.  Bydd hyn yn parhau (oni bai fod y plentyn yn rhoi’r arwydd stop - gweler isod) nes ei bod yn ymddangos nad yw’r digwyddiad yn achosi gofid i’r plentyn.


Teimlo’n ddiogel


Wrth weithio gyda phrofiadau a theimladau annifyr mae’n bwysig iawn fod y plentyn yn teimlo’n ddiogel a’i fod o’n rheoli’r sefyllfa bob amser.


Fel arfer bydd y therapydd yn creu ‘lle diogel’ gyda’r plentyn cyn dechrau defnyddio EMDR i weithio ar deimldau neu atgofion annifyr.  I wneud hyn rhaid i’r plentyn ddychmygu rhywle lle mae ef neu hi’n teimlo’n ddiogel ac yn hapus ynddo, a defnyddio symudiadau’r llygaid i sefydlu delwedd gref ohono.  Mae’r lle diogel yma’n dechneg ymlacio.


Gall fod yn lloches i’r plentyn yn ystod EMDR neu unrhyw bryd rhwng sesiynau.


Yr arwydd stop


Mae hwn yn rhoi rheolaeth i’r plentyn ac yn ei helpu ef neu hi i deimlo’n ddiogel.  Gofynnir i’r plentyn godi ei law os yw eisiau stopio.  Mae hyn yn hysbysu’r therapydd fod y plentyn eisiau ‘stopio ar unwaith’.  Bydd y therapydd yn dweud wrth y plentyn ei bod yn bwysig cofio mai ‘dy ymennydd di fydd yn gwneud y gwaith gwella a ti yw’r un sy’n rheoli’r broses’.


Yn olaf


Nid yw’r wybodaeth a roddir yma yn disodli cyngor eich therapydd.  Cofiwch ei drafod gyda’ch therapydd, a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth fwy manwl i chi.